SL(6)222 – Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â'r UE) (Rhif 2) 2022

Cefndir a diben

Mae Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018 ("Rheoliadau 2018") yn pennu ffioedd sy'n daladwy i Weinidogion Cymru mewn perthynas â gwasanaethau iechyd planhigion ac ardystio.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2018:

·         mewn perthynas â'r ffioedd sy'n daladwy gan fewnforiwr llwyth o drydedd wlad mewn cysylltiad â gwiriad ffisegol a gwiriad adnabod o blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill, gan gynnwys darparu ar gyfer ffi safonol mewn perthynas â gwiriadau penodol;

 

·         i ymestyn eithriad presennol rhag talu ffioedd sy'n daladwy mewn cysylltiad ag ardystio a gwasanaethau cyn-allforio sy'n ymwneud â llwythi penodol i Ogledd Iwerddon rhwng 31 Rhagfyr 2022 a 31 Rhagfyr 2023; ac

 

·         i adfer ffioedd rhagnodi darpariaeth sy'n daladwy ar gyfer samplau a gymerir ar fewnforion yr amheuir eu bod wedi'u heintio â phla planhigion rheoledig, a hepgorwyd drwy gamgymeriad gan Reoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2021.

Gweithdrefn

Cadarnhaol Drafft.

Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod drafft o'r Rheoliadau gerbron y Senedd. Ni all Gweinidogion Cymru wneud y Rheoliadau oni bai bod y Senedd yn cymeradwyo'r Rheoliadau drafft.

Materion technegol: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu    

Nodir y tri phwynt a ganlyn ar gyfer adrodd o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.3 (i) – ei fod yn codi tâl ar Gronfa Gyfunol Cymru neu ei fod yn cynnwys darpariaethau sy’n ei gwneud yn ofynnol i daliadau gael eu gwneud i’r Gronfa honno neu i unrhyw ran o’r llywodraeth neu awdurdod lleol neu gyhoeddus er mwyn cydnabod unrhyw drwydded, cydsyniad neu unrhyw wasanaethau sydd i’w rhoi, neu ei fod yn rhagnodi swm unrhyw dâl neu daliad o’r fath.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ffioedd sy'n daladwy i Weinidogion Cymru o dan Reoliadau 2018 mewn cysylltiad â gwasanaethau iechyd planhigion. Mae'r Memorandwm Esboniadol sy'n cyd-fynd â'r Rheoliadau hyn (yn adran 6) yn nodi’r canlynol:

"Amcangyfrifir y bydd effaith y newidiadau arfaethedig ledled Cymru ar fusnesau, elusennau neu gyrff gwirfoddol yn arbed tua £60 mil y flwyddyn yng Nghymru oherwydd lefelau is o wiriadau ac effaith ddilynol ar ffioedd. Fodd bynnag, gall y ffordd y caiff llwythi cymysg eu rheoli arwain at or adfer swm bach iawn o £1.5 mil".

2. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Mae'r Memorandwm Esboniadol (yn adran 4) yn nodi:

"Mae'r ffioedd ar gyfer archwiliadau iechyd planhigion a bennir gan Reoliadau 2018 yn cael eu diwygio yn yr offeryn hwn i adlewyrchu amlder y gwiriadau a sefydlwyd o dan Reoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion) (Amlder Gwiriadau) 2022…"

Mewn Datganiad Ysgrifenedig a gyhoeddwyd ar 4 Gorffennaf 2022 gan Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru ei bod yn rhoi caniatâd i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud Rheoliadau 2022, a bod y Rheoliadau hynny:

"...yn darparu ar gyfer trefn ar gyfer Prydain Fawr sy’n seiliedig ar risg i bennu pa mor aml y cynhelir gwiriadau. Bydd yn caniatáu newid pa mor aml y cynhelir gwiriadau o iechyd planhigion ar lwybrau mewnforio penodol, gan ddibynnu ar lefel y risg i iechyd planhigion ym Mhrydain Fawr…. Bydd [Rheoliadau 2022] …yn gymwys yn yr un modd ag i fewnforion o wledydd y tu allan i’r UE ag i nwyddau blaenoriaeth uchel o aelod-wladwriaethau’r UE, y Swistir a Liechtenstein."

Ymateb Llywodraeth Cymru

Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

6 Gorffennaf 2022